cwrdd a mi wrth yr afon (meet me by the river)

Comissioned by Mostyn Gallery LLandudno

Inspired by networks that occur in nature which enable communities of plants and wildlife to thrive, share nourishment and send cross species alerts, cwrdd â mi wrth yr afon aims to intersect, overlay and highlight connecting threads between art, the land and people living in North Wales.

Gradually taking shape as a regular club represented by local communities of Conwy, native plants and artist Frances Disley, cwrdd â mi wrth yr afon has been active since spring 2022 as a nomadic collaboration between human and non-human networks connected via the afon Conwy and its tributaries.

During the programme, the club took part in rural encounters in Capel Curig, Coed Hafod and RSPB Cowny, and workshops at Menter Iaith, Llanrwst and Conwy Culture Centre, where the club slowed down and exchanged knowledge and histories with and around the plants living in the three sites.

This summer, cwrdd â mi wrth yr afon will inhabit the Project Space and invites the wider public into the project through a presentation of film, sculpture, textiles and participatory activities.

Mostyn offers its sincere thanks to all the project collaborators: Iona, Myfanwy, Sheila, Lynzi, Irene, Janey, Mair, Eirlys, Sharon, George, Jim, Delyth and Rhiannon.

Wedi’i ysbrydoli gan rwydweithiau sy’n digwydd ym myd natur sy’n galluogi cymunedau o blanhigion a bywyd gwyllt i ffynnu, rhannu maeth ac anfon rhybuddion traws-rywogaeth, mae cwrdd â mi wrth yr afon yn anelu at groestorri, troshaenu ac amlygu edafedd cysylltiol rhwng celf, y tir a phobl sy’n byw yng Ngogledd Cymru.

Yn cymryd siâp yn raddol fel clwb rheolaidd a gynrychiolir gan gymunedau lleol Conwy, planhigion brodorol a’r artist Frances Disley, mae cwrdd â mi wrth yr afon wedi bod yn weithredol ers gwanwyn 2022 fel cydweithrediad crwydrol rhwng rhwydweithiau dynol ac an-ddynol sy’n gysylltiedig trwy’r afon Conwy a’i llednentydd.

Yn ystod y rhaglen, bu’r clwb yn cymryd rhan mewn cyfarfyddiadau gwledig yng Nghapel Curig, Coed Hafod a RSPB Conwy, a gweithdai yn Menter Iaith, Llanrwst a Chanolfan Ddiwylliant Conwy, lle arafodd y clwb a chyfnewid gwybodaeth a hanes gyda’r planhigion oedd yn byw yn y tri safle ac o’u cwmpas.

Yr haf hwn, bydd cwrdd â mi wrth yr afon yn byw yn y Gofod Prosiect ac yn gwahodd y cyhoedd ehangach i’r prosiect trwy gyflwyniad ffilm, cerflunwaith, tecstilau a gweithgareddau cyfranogol.

Mae MOSTYN yn diolch o galon i holl gydweithwyr y prosiect: Iona, Myfanwy, Sheila, Lynzi, Irene, Janey, Mair, Eirlys, Sharon, George, Jim, Delyth a Rhiannon.

Documentation of exhibition Rob Battersby

Gwlyptir Coetir Rhostir Coetir Gwlyptir / Wetland Woodland Heath Woodland Wetland, 2022 
Video, 7 min 36 sec,
Artist: Frances Disley
Camera and editing: George Ellis
Featuring: Afon Conwy, Capel Curig, Coed Hafod, RSPB Conwy

yr hyn sy’n tyfu lle rydym yn crwydro / what grows where we wander, 2022 
Video, 9 min 32 sec
Artist: Frances Disley
Camera and editing: George Ellis
Featuring: cwrdd â mi wrth yr afon, Delyth Williams and Jim
Langley – Natures Works, Afon Conwy, Capel Curig, Coed Hafod, RSPB Conwy, Menter Iaith